
Prosiect Ysgolion - Stampiau Llwybr Cadfan

Dyluniwyd y stampiau yma gan ddisgyblion ysgolion sydd ar hyd Llwybr Cadfan. Bu Prosiect Pererin, Tîm Llan yn Esgobaeth Bangor yn rhedeg gweithdai am bererindod gan ganolbwyntio ar bwyslais y Cwricwlwm Cymraeg ar gynefin – y ddealltwriaeth o gymuned, diwylliant a lle. O fewn y gweithdy cafodd y disgyblion y cyfle i ddylunio ac argraffu stampiau oedd yn adlewyrchu treftadaeth gyfoethog ac arwyddocâd ysbrydol safleoedd ar hyd y llwybr. Cynhyrchwyd gwaith oedd yn dathlu’r eglwysi, ffynhonnau, pentrefi a threfi ar hyd Llwybr Cadfan. Mae 26 stamp a gellir prynu pasbort i’w casglu oddi mewn iddo wrth gerdded y llwybr 12 diwrnod hwn. Mae 2 stamp ar gyfer pob dydd o gerdded, stamp ychwanegol ar gyfer Abaty Cymer, Dolgellau ac un ar gyfer Ynys Enlli y tu hwnt i ben LlÅ·n. Bu dros 600 o blant yn rhan o’r prosiect stampio gyda chyfuniad o waith 56 disgybl o fewn y 26 stamp buddugol.
Yn fuddgol:​
Carys Mc Laughlin, Leo Chambers, Ifan Jack, Mari Jones, Sami Williams, Evie Ray, Elin Williams, Teddy Williams, Idris Pigdon, Madi Thomas, Elinor Bush, Jac Hubbart Smith, Gracie King, Robyn Humphreys, Hetty Howard, Ruby Hughes, Callie Bavin, Alis Gwenllian, Frankie Scriven, Maia Humphreys, Lois Butler, Olwen Swyn Rhys, Luca Polijakovic, Scarlett Harvey, Mabon Rhys Smith Roberts, Eira Falconer, Ela Williams, Oti Roberts, Ami Roberts, Henry Evans, Ellie Reffold, Miri Madigan, Avelin Mansell, Jasmine Cutts, Elias Jinson, Osian Greenwood, Ella Booth, Caleb Howey, Summer Evans, Lydia Harper-Jones, Sofia Herashchenko, Arabella Parsons, Owi Eifion, Ceti Wynne Jones, Luisa Griffiths, Oliver Clark, Tomi LlÅ·r Williams, Jack Machnik-Howe, Sara Lloyd Jones, Carter Davies, Alys Evie Cotter, Esme Wright-Dungar, Frankie Elliot, Alys Vaughan Jones, Jac Adams.
CONTACT & FINDING US
Oriel Tŷ Meirion, Y Brif Heol, Dyffryn Ardudwy LL44 2DH, UK
+44 (0)1341 242481