top of page
Judith Harrison
Outside Edges Exhibition-40.jpg

Mae Judith yn gerddwr brwd, ac mae ei theithiau cerdded yn aml ar y llwybr a gwmpesir gan Lwybr Cadfan, yn enwedig yn y bryniau tu ôl i Ddyffryn Ardudwy. Mae ganddi ddiddordeb hefyd yn Ynys Enlli, yn enwedig y bywyd gwyllt lleol, pwysau’r môr a’i gysylltiad â’r mythau Arthuraidd a Myrddin.

 

Gan ddefnyddio ffotograffau fel man cychwyn ynghyd â delweddau sy'n deillio o ymchwil i chwedlau a hanes lleol, mae hi'n cynhyrchu darnau o waith manwl sy'n adlewyrchu hanfod yr ardal.

 

Mae ei gwaith yn dechrau gyda chynfas lle mae hi'n haenu papur a phlastr i ffurfio sylfaen weadol ar gyfer y ddelwedd. Gorffennir ei gweithiau gyda haenau o baent acrylig, inc a farnais.

© Oriel TÅ· Meirion 2025

bottom of page