top of page
Ian Phillips
Unknown-2.jpeg

Mae Ian Phillips yn wneuthurwr printiau lleol adnabyddus. Mae ei waith yn arbenigo mewn portreadu tirwedd a morluniau gwyllt Cymru, gyda phwyslais cyfredol ar Eryri ac arfordir y gogledd.

 

Mae Ian wedi bod yn argraffu ers dros ddeng mlynedd ar hugain a phwnc y printiau hyn, man cychwyn ei holl broses, yw taith gerdded gyda llyfr braslunio felly mae dilyn llwybr pererindod ar hyd arfordir Gwynedd yn ffitio’n berffaith.

 

Mae Ian yn bwriadu cerdded y llwybr, gan ei rannu’n ddwy ran, gyda’r nod o ymgolli ym mhrofiad y bererindod gymaint â phosib. Wrth gerdded bydd yn tynnu llun yr arfordir y mae'n cerdded ar ei hyd, y bobl y mae'n eu gweld a'r lleoedd y mae'n mynd trwyddynt. Bydd y rhain wedyn yn cael eu troi’n gyfres olynol o brintiau torlun pren, gan fynd â’r gwyliwr ar hyd y llwybr a gobeithio ysbrydoli mwy o bobl i’w gerdded eu hunain.

© Oriel TÅ· Meirion 2025

bottom of page