top of page

Ffion Gwyn

Mae Ffion yn artist sydd wedi ymgartrefu yng Nghricieth ac yn mwynhau peintio yn yr awyr agored. Mae'n teimlo'n hynod o ffodus cael byw a gweithio mewn ardal mor brydferth, sydd yn sail ysbrydoliaeth parhaus. Bu'n dogfennu teithiau mewn aml gyfrwng, yn bennaf fel dull o ymlacio. Mae'n diddori mewn hen fapiau, llen gwerin, chwedloniaeth a'r hanesion cyfoethog sy'n gysylltiedig a'i milltir sgwar.
Wrth iddi ddeall mwy am hanesion y tir mae'n teimlo cysylltiad dyfnach i'w bro, ac yn cael mwynhad yn dal ysbryd a naws yr amrywiol olygfeydd. Mae'r broses o ddogfennu golygfeydd yn gwneud iddi deimlo balchder mewn perthyn i'r fro, i'w chynefin a'i chymuned.


1/1
bottom of page